Cyngor diogelwch tacsi

Rhaid i unrhyw un sy'n gyrru cerbyd trwyddedig (hyd at 8 teithiwr), naill ai fel gyrrwr cerbyd hacni neu gerbyd llogi preifat, gael trwydded gan Gyngor Dinas Casnewydd os ydynt yn bwriadu gweithredu yn yr ardal hon. 

Mae gan dîm trwyddedu'r cyngor ddyletswydd i sefydlu a yw'r gyrrwr yn berson 'addas a phriodol', gan gymryd i ystyriaeth hanes meddygol ac unrhyw hanes troseddol.

Rhaid i yrwyr tacsi trwyddedig sicrhau bod eu cerbyd wedi'i drwyddedu i gludo teithwyr sy'n talu, a rhaid iddo gael trwydded cerbyd hacni neu gerbyd llogi preifat ddilys.

Cyn i drwydded gael ei rhoi, bydd y cyngor yn profi'r cerbyd i sicrhau ei bod yn addas ar gyfer y ffordd.

Cerbydau Hacni

 Gall y rhain gael eu galw ar ochr y ffordd neu safle tacsis ac nid oes angen archebu ymlaen llaw trwy swyddfa. Mae Cerbyd Hacni:

  • yn ddu
  • gyda mynediad i'r anabl
  • rhaid iddo gael tariff dilys
  • rhaid iddo ddefnyddio mesurydd os yw'r daith o fewn ffiniau’r cyngor
  • rhaid iddo gael arwydd 'tacsi' wedi'i osod ar y to sy'n cael ei oleuo pan mae ar gael i’w logi
  • rhaid arddangos y plât mewnol ar chwith uchaf y sgrin wynt
  • bod â phlât cerbyd hacni gyda ffin werdd wedi'i osod ar gefn y cerbyd sy'n cario'r rhif cerbyd pedwar digid, gwneuthuriad a model y cerbyd a nifer y teithwyr y mae ganddo awdurdod i'w cario

Cerbydau llogi preifat

Rhaid archebu'r rhain ymlaen llaw trwy swyddfa awdurdodedig ac ni chânt chwilio am archebion llogi gan na fydd ganddynt yr yswiriant cywir. Mae cerbyd llogi preifat:

  • yn gallu bod o unrhyw liw, oni bai y gellid drysu rhyngddo â cherbyd hacni, ac felly ni chaiff fod yn ddu
  • gallai fod â mynediad i'r anabl - cysylltwch â'r gweithredwr i drafod
  • rhaid iddo arddangos y plât mewnol ar chwith uchaf y sgrin wynt
  • bod â phlât llogi preifat gyda ffin wen wedi'i osod ar gefn y cerbyd sy'n cario rhif cerbyd pedwar digid, gwneuthuriad a model y cerbyd a nifer y teithwyr y mae ganddo awdurdod i'w cario

Sut i gwyno

Os y dymunwch gwyno am yrrwr, cerbyd neu weithredwr, anfonwch e-bost at [email protected]

Rhowch gymaint o wybodaeth â phosib gan gynnwys:

  • beth a ddigwyddodd
  • dyddiad ac amser y digwyddiad
  • lle y digwyddodd
  • y cerbyd neu'r gyrrwr dan sylw
  • rhif cofrestru neu rif plât
  • disgrifiad o'r cerbyd neu'r gyrrwr
  • dywedwch wrthym os y gwnaethoch adrodd amdano wrth yr heddlu
  • rhowch yr amser gorau i gysylltu â chi