Trwydded gwaith stryd

Gwneud cais ar gyfer trwydded Adran 50

O dan y Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd, mae trwydded Adran 50 yn caniatáu i berson heb hawl statudol, osod, cadw a symud cyfarpar ar y stryd a gwneud gwaith sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw.  

Adran 50 o’r Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd ac Atodlen 3 i’r Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd sy'n llywodraethu'r system drwyddedau.

Mae'r trwyddedai i bob pwrpas yn gweithredu fel ymgymerwr statudol ac wedi ei lywodraethu gan y rhwymedigaethau a osodir dan y Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd, y Ddeddf Rheoli Traffig (TMA) a rheoliadau eraill.

Rhaid i Gyngor Dinas Casnewydd gadw cofnod o'r holl waith stryd a chyfarpar a osodwyd dan drwyddedau y mae wedi'u rhoi.

Rhaid cynnwys manylion trwyddedau yn y Gofrestr Gwaith Stryd.

Meini prawf cymhwysedd

Rhaid i geisiadau gael eu gwneud gan berchennog y cyfarpar arfaethedig a/neu'r tir y bydd y cyfarpar yn ei wasanaethu.

Bydd angen i ymgeiswyr ystyried a derbyn y cyfrifoldebau a roddir ar ddeiliad trwydded a darparu: 

  • Manylion llawn y cyfarpar arfaethedig gan gynnwys y math, y diben, y dull adeiladu a'r lleoliad
  • Tystiolaeth o Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus sy'n ddilys drwy gydol y drwydded arfaethedig am isafswm yswiriant o £10,000,000
  • Cadarnhau mai nhw yw perchennog y cyfarpar/tir

Crynodeb rheoliad

Mae'n ofynnol i ddeiliad trwydded: 

  • Gysylltu â phob sefydliad a allai fod â diddordeb yn y briffordd (cwmnïau cyfleustodau, goleuadau stryd ac ati) i roi gwybod iddynt am y cynnig, gofyn am wrthwynebiadau neu bryderon a chael copïau o'r cyfarpar presennol yn y lleoliad dan sylw. Mae copïau o'r ffurflenni angenrheidiol wedi'u cynnwys yn y cais.
  • Sicrhau bod gwaith yn cael ei gynllunio'n gywir a'i wneud mewn modd amserol
  • Sicrhau bod yr holl amodau a gymhwysir ar y drwydded yn cael eu cyflawni
  • Rhoi gwybod i'r awdurdod priffyrdd am unrhyw faterion sy'n codi
  • Sicrhau bod y cyfarpar yn cael ei gynnal a'i gadw ac nad yw'n achosi perygl i'r cyhoedd na niwed i'r seilwaith priffyrdd gan gynnwys cyfarpar arall
  • Indemnio'r awdurdod priffyrdd yn erbyn pob hawliad gan gynnwys anaf, difrod neu golled sy'n deillio o unrhyw agwedd ar y cyfarpar neu'r strwythur gan gynnwys gosod, cynnal a chadw a symud, a hefyd o ganlyniad i bresenoldeb y cyfarpar neu'r strwythur. Felly, mae angen bod yswiriant addas ar waith ar gyfer oes y drwydded a bod yswirian o £10,000,000 o leiaf yn ei le ar gyfer pob hawliad heb unrhyw derfyn ar nifer yr hawliadau
  • Sicrhau bod y drwydded yn cael ei throsglwyddo'n gywir i drydydd parti os gwerthir y tir/cyfarpar

Mae ffioedd yn daladwy ar adeg gwneud cais a gellir cymhwyso amodau pellach yn ychwanegol at yr amodau safonol.

Y ffi bresennol yw £712.80. 

Ymgeisio

Lawrlwythwch y Ffurflen gais am drwydded Gwaith Stryd (pdf)

Ein nod yw prosesu'r cais o fewn pedwar diwrnod ar ddeg, os nad ydych wedi clywed erbyn y pedwar diwrnod ar ddeg cysylltwch â ni. 

Cyswllt

E-bostiwch [email protected] neu ffoniwch (01633) 656656 gydag unrhyw ymholiadau.