Trwydded caffi palmant

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cefnogi ac yn annog darparu caffis palmant yn y ddinas gan y gallant helpu i wneud y defnydd gorau posibl o fannau cyhoeddus, cynorthwyo'r economi leol ac ychwanegu at y cyfleusterau a gynigir i bobl sy'n ymweld, yn byw a gweithio yng Nghasnewydd.

Rhaid i gaffis palmant gael eu lleoli'n briodol a'u rheoli i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau a ddisgwylir yng Nghasnewydd ac nad ydynt yn creu perygl i gerddwyr.

Rhoddir caniatâd i ddefnyddio'r briffordd gyhoeddus ar gyfer caffi palmant trwy'r trwyddedau gan y cyngor dan Adran 115E Deddf Priffyrdd 1980. 

Darllenwch y Polisi Trwyddedu Caffi Palmant (pdf) sy'n nodi'r amodau a fydd ynghlwm wrth y drwydded os caniateir.

Ffioedd 2024/2025

Ffi gwneud cais = £175.50

Ffioedd trwydded palmant
Nifer o fyrddau a chadeiraiu Ffi flynyddol*
Gallu o dan 35 pobl £64.50
Gallu 36 i 95 pobl £99.50
Gallu 95 i 155 pobl £175.50
155+ pobl  £216.50
Os yw'r Adeilad yn dymuno gweithredu “man ysmygu” neu ardal giwio. £58.50 ychwanegol
Newid enw ar y drwydded neu gopi dyblyg £29

*Bydd y ffi hon yn amodol ar adolygiad blynyddol a gall gynyddu

Gwneud cais ar-lein am drwydded caffi palmant

Pan dderbynnir cais dilys, mae'n ofynnol i ni hysbysebu ceisiadau am drwyddedau caffi palmant am ddim llai na 28 diwrnod trwy bostio hysbysiadau yn ardal y caffi palmant arfaethedig, o dan delerau Deddf Priffyrdd 1980.

Os na cheir unrhyw wrthwynebiadau, rhoddir y drwydded o fewn pum niwrnod gwaith.

Os ceir gwrthwynebiad, bydd gofyn i'r rheolwr gwasanaeth dirprwyedig benderfynu ar y cais o fewn 20 diwrnod gwaith.

Gall byrddau a chadeiriau a osodir ar y briffordd heb ganiatâd ffurfio rhwystr anghyfreithlon a byddwn yn cymryd camau gorfodi angenrheidiol.