Cofrestru eiddo bwyd

Os ydych yn rheoli safle lle mae bwyd yn cael ei storio, ei baratoi, ei ddosbarthu neu ei werthu, mae angen i chi gofrestru gyda Chyngor Dinas Casnewydd.

Mae adeiladau bwyd yn cynnwys bwytai, caffis, gwestai, siopau, ffreuturiau, stondinau marchnad, faniau arlwyo symudol a faniau cyflenwi bwyd.

Rhaid i fusnesau bwyd fod wedi'u cofrestru o leiaf 28 diwrnod cyn i weithrediadau bwyd ddechrau.

Nid oes ffi.

Ni ddylai busnesau bwyd sy'n trin rhai cynhyrchion anifeiliaid weithredu oni bai eu bod wedi eu cymeradwyo gan y cyngor – y rhain yw busnesau fel storfeydd oer, ffatrioedd torri cig a gweithfeydd prosesu cig eraill sy'n trin ac yn paratoi cigoedd amrwd neu gig wedi’i goginio. 

Lawrlwythwch y ffurflen cofrestru eiddo bwyd (pdf) 

Byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth ysgrifenedig o'ch cais yn cadarnhau cofrestru.

Neu gwnewch gais ar-lein trwy wefan Gov.UK

Cyswllt

Gofynnwch am dîm diogelwch bwyd iechyd yr amgylchedd Cyngor Dinas Casnewydd