Sefydliadau marchogaeth

Mae angen trwydded i redeg ysgol farchogaeth neu sefydliad sy'n llogi ceffylau neu ferlod ar gyfer marchogaeth.

Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed ac mae ffi i'w dalu.

Gweler y ffioedd trwydded iechyd anifeiliaid cyfredol.

Caiff ysgolion marchogaeth eu harchwilio bob blwyddyn gan filfeddyg a ddewisir gan yr awdurdod lleol a fydd yn arolygu pob ceffyl, cyfrwyau, stablau ac ardal ymarfer.

Yr ymgeisydd fydd yn talu unrhyw ffioedd milfeddygol yn ychwanegol at ffi y cais am drwydded.

Gwnewch gais am drwydded sefydliad marchogaeth

Darllenwch fwy o ganllawiau ynghylch rhedeg sefydliad marchogaeth

 Cyswllt

E-bostiwch [email protected] neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am y tîm Safonau Masnach.