Trwydded bridio cŵn

Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy’n bridio tri neu fwy o dorlwythi o gŵn bach mewn cyfnod o 12 mis gael trwydded.

Rhaid i chi gael trwydded cyn gweithredu sefydliad bridio 

Mae person sy'n euog o drosedd o dan y rheoliad hwn yn agored ar gollfarn ddiannod i garchar am gyfnod nad yw'n hwy na chwe mis yn y carchar, dirwy nad yw'n fwy na lefel 5 (£5000) ar y raddfa safonol, neu'r ddau. 

Ni chaiff neb gadw sefydliad bridio heb yn gyntaf gael trwydded.

Cysylltwch â ni cyn gwneud cais am drwydded er mwyn i ni allu siarad am y gofynion ac anfon yr holl amodau y bydd angen i chi eu bodloni er mwyn i chi allu gwneud cais am drwydded ar-lein.

Yn ogystal â'r cais am drwydded, bydd angen i chi gwblhau cynllun cymdeithasoli ac amgylchedd cŵn bach (pdf).

Gwnewch gais am drwydded bridio cŵn

Mae trwyddedau'n ddilys am 12 mis ac mae'n rhaid eu hadnewyddu cyn i’r dyddiad ddod i ben.

Mae ffi yn daladwy, gweler y ffioedd trwydded iechyd anifeiliaid cyfredol.

Gellir rhoi trwydded os nad yw'r ymgeisydd wedi'i anghymhwyso rhag:

  • cadw sefydliad bridio cŵn
  • cadw siop anifeiliaid anwes
  • cadw ci
  • cadw sefydliad anifeiliaid
  • gwarchod anifeiliaid

Amodau

Cyn i drwydded gael ei chaniatáu, bydd yr eiddo'n cael ei archwilio gan arolygydd milfeddygol a awdurdodwyd gan Gyngor Dinas Casnewydd ar gost yr ymgeisydd.

Yna gwneir archwiliad blynyddol gan swyddog cyngor.

Yn ystod yr arolygiad, rhaid i'r ymgeisydd allu dangos:

  • bod y cŵn yn cael eu cadw mewn llety addas o ran adeilad, maint y llety, nifer y preswylwyr, cyfleusterau ymarfer, tymheredd, goleuadau, awyru a glanweithdra
  • bod y cŵn yn cael deunyddiau bwyd, diod a dillad gwely addas, ac yr ymwelir â’r anifeiliaid a'u hymarfer
  • y cymerir camau rhesymol i atal a rheoli lledaeniad afiechydon heintus gan gynnwys cyfleusterau arwahanu
  • y rhoddir amddiffyniad digonol i ddiogelu’r cŵn rhag tân ac argyfyngau eraill, gan gynnwys darparu offer ymladd tān addas a digonol
  • bod y cŵn yn cael deunyddiau bwyd, diod a dillad gwely addas, ac yr ymwelir â hwy a'u hymarfer yn ddigonol wrth iddynt gael eu cludo i’r sefydliad bridio ac oddi yno

Apêl

Os gwrthodir trwydded, gellir gwneud apêl i'r llys ynadon a all roi cyfarwyddiadau o'r fath ynglŷn â'r drwydded neu'r amodau.

Cysylltwch â'r tîm safonau masnach yng Nghyngor Dinas Casnewydd am fwy o wybodaeth.