Trwydded anifail gwyllt peryglus

Mae angen trwydded arnoch i gadw rhai anifeiliaid sy'n cael eu hystyried yn wyllt, yn beryglus neu'n egsotig, er enghraifft:

  • cathod gwyllt
  • primatiaid
  • cŵn gwyllt, e.e. bleiddiaid
  • rhai moch, e.e. baedd gwyllt
  • bolgodogion

Gellir gweld y rhestr lawn o anifeiliaid y mae angen trwydded arnynt yn yr atodlen i Orchymyn  Diwygio Deddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 2007

Efallai y bydd angen trwydded gydag anifeiliaid hybrid neu groesfrid, yn dibynnu ar ba mor bell y mae'r anifail wedi dod oddi wrth ei hynafiaid gwyllt.

Os nad ydych chi'n siŵr, holwch - e-bostiwch [email protected]

Mae trwydded anifail gwyllt peryglus yn ddilys am uchafswm o ddwy flynedd.

Mae ffi yn daladwy, gweler y ffioedd trwydded iechyd anifeiliaid cyfredol.

Amodau

Caiff yr eiddo ei archwilio gan swyddog awdurdodedig a milfeddyg arbenigol i sicrhau bod amodau'r drwydded wedi'u bodloni.

Codir tâl am unrhyw ffioedd milfeddygol ar yr ymgeisydd.

Bydd y milfeddyg yn adrodd am unrhyw faterion i'r cyngor a gellir ychwanegu'r rhain fel amodau ychwanegol i'r drwydded.

Os yw'r arolygydd yn ystyried bod gweithdrefnau a safleoedd yr ymgeisydd yn addas, rhoddir y drwydded.

Rhaid arddangos copi o'r drwydded mewn man amlwg yn yr adeilad.

Byddwch yn ymwybodol o ddeddfwriaeth arall fel Deddf Lles Anifeiliaid 2006, os nad ydych yn bodloni'r gofynion cyfreithiol hyn, efallai na chewch eich trwyddedu.

Cysylltwch â ni cyn er mwyn i ni allu siarad drwy'r gofynion ac anfon atoch yr holl amodau y bydd angen i chi eu bodloni.

Darllenwch fwy ar wefan Gov.UK.

Cyswllt

Am gyngor, cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am y tîm Safonau Masnach.