Trwyddedau personol

Mae Trwydded Bersonol yn caniatáu i unigolyn awdurdodi gwerthu neu gyflenwi alcohol ac mae'n drwydded ar wahân i drwydded safle.

Rhaid i bob safle sy'n gweini alcohol ac sydd â Thrwydded Safle gael o leiaf un deiliad trwydded bersonol, a bydd un o'r rhain wedi'i enwi'n Oruchwylydd Dynodedig Safle ar y Drwydded Safle.

Mae'n rhaid i unrhyw alcohol sy'n cael ei werthu o dan y drwydded safle gael ei awdurdodi gan y Goruchwylydd, neu gan rywun arall sydd â thrwydded bersonol.

Y ffi ar gyfer cais am drwydded bersonol yw £37 a rhaid talu'r un ffi ar  adeg adnewyddu'r drwydded, Gweld y ffioedd trwyddedu presennol

Goruchwylydd Dynodedig Safle

Rhaid i bob safle sydd wedi'i awdurdodi gan Drwydded Safle i gyflenwi alcohol benodi Goruchwylydd Dynodedig Safle.

Rhaid i gais am Drwydded Safle a fyddai'n awdurdodi cyflenwi alcohol, pe byddai'n cael ei rhoi, gynnwys ffurflen ganiatâd gan yr unigolyn sydd wedi'i enwi'n Oruchwylydd Dynodedig Safle.

Dim ond un Goruchwylydd all fod fesul safle a rhaid iddo ddal trwydded bersonol.

Ystyrir mai'r Goruchwylydd yw'r unigolyn sydd â'r prif gyfrifoldeb am y safle, a dylai sicrhau bod yr holl staff ar y safle wedi cael hyfforddiant priodol ar ofynion Deddf Trwyddedu 2003 a'r amodau cydymffurfio sydd ynghlwm wrth y drwydded safle.

I fod yn gymwys am drwydded bersonol, mae'n rhaid i chi fodloni meini prawf penodol a rhaid i'r awdurdod trwyddedu roi'r drwydded os yw'n ymddangos:

  • bod yr ymgeisydd yn 18 oed neu'n hŷn

  • nid yw trwydded bersonol yr oedd yr ymgeisydd yn ei dal wedi cael ei fforffedu o fewn y cyfnod pum mlynedd cyn gwneud y cais

  • bod yr ymgeisydd yn meddu ar gymhwyster trwyddedu wedi'i achredu, neu ei fod yn unigolyn o ddisgrifiad rhagnodedig

  • nid yw'r ymgeisydd wedi'i gael yn euog o unrhyw drosedd berthnasol na throsedd dramor

Os nad yw'r cais yn bodloni un o'r tri maen prawf cyntaf, rhaid i'r awdurdod trwyddedu wrthod y cais a rhaid iddo roi gwybod i brif swyddog yr heddlu lleol os yw'n ymddangos bod ymgeisydd wedi'i gael yn euog o unrhyw drosedd berthnasol.

Cymhwyster trwyddedu

Os ydych chi'n gwneud cais am Drwydded Bersonol, bydd angen i chi ennill cymhwyster wedi'i achredu yn gyntaf.

Lawrlwythwch ffurflen gais am Drwydded Bersonol

Neu lawrlwythwch y ffurflen gais am drwydded bersonol a'r ffurflen datganiad a datgelu euogfarnau mewn MS Word.

Anfonwch y ffurflen gais wedi'i llenwi yn ôl gyda:

  • ffi gyfredol y drwydded 
  • ffurflen datganiad a datgelu euogfarnau wedi'i llenwi 

  • dau ffotograff maint pasbort, y mae'n rhaid i ohonynt gael ei ardystio gan ddatganiad gan gyfreithiwr, notari, unigolyn o statws yn y gymuned neu unrhyw unigolyn â chymhwyster proffesiynol, sy'n cadarnhau mai llun o'r ymgeisydd ydyw

  • cymhwyster trwyddedu wedi'i achredu gan yr Ysgrifennydd Gwladol

  • tystysgrif euogfarnau troseddol a gyhoeddwyd o dan a.112 Deddf yr Heddlu 1997, neu dystysgrif cofnod troseddol a gyhoeddwyd o dan a.113A Deddf yr Heddlu 1997, neu ganlyniadau chwiliad mynediad gwrthrych o Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu gan y Gwasanaeth Adnabod Cenedlaethol o dan Ddeddf Diogelu Data 1998(b). Ni all y dyddiad ar y tystysgrifau hyn fod mwy na mis cyn cyflwyno'r cais llawn i'r Awdurdod Trwyddedu.

Rhaid anfon ceisiadau am drwydded bersonol at yr awdurdod trwyddedu lle mae'r ymgeisydd yn byw, nid lle mae'n gweithio.

Dylid anfon y ffurflen gais wedi'i llenwi a'r dogfennau at:

Y Tîm Trwyddedu, Blwch Post 883, Cyngor Dinas Casnewydd, Casnewydd NP20 9LR

Gwrthwynebiadau

Gall prif swyddog yr heddlu wneud sylw ar benodiad unrhyw Oruchwylydd Dynodedig Safle os yw'n ystyried y gallai'r amcan atal troseddu gael ei danseilio.

Yna, rhaid i'r awdurdod trwyddedu gynnal gwrandawiad i ystyried y gwrthwynebiadau, oni bai bod pob parti yn cytuno nad oes ei angen.

Darllenwch ragor am Drwyddedau Personol ar wefan y Swyddfa Gartref.

Adnewyddu

Ers 1 Ebrill 2015, nid oes angen adnewyddu trwydded bersonol mwyach.

Mae Adran 115 Deddf Trwyddedu 2003 wedi'i diwygio gan adran 69 Deddf Dadreoleiddio 2015, sef dileu'r gofyniad i adnewyddu trwyddedau personol. 

Newid enw neu gyfeiriad

O dan Ddeddf Trwyddedu 2003, mae gan ddeiliad trwydded bersonol ddyletswydd i hysbysu'r awdurdod cyhoeddi am unrhyw newid i enw neu gyfeiriad.

Byddwch yn cyflawni trosedd os na fyddwch yn gwneud hynny.

Tell us about a change of name or address

Lawrlwythwch ffurflen i roi gwybod am newid i enw neu gyfeiriad (pdf)

Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd gyda ffi o £10.50 a'ch hen drwydded bersonol (y papur a'r cerdyn)

Dylai trwydded newydd gael ei chyhoeddi o fewn 5 diwrnod gwaith.

Dwyn, colli neu ddifrod

Os yw'ch trwydded bersonol wedi cael ei cholli, ei dwyn neu ei difrodi, gallwch ysgrifennu at y tîm trwyddedu a chynnwys y ffi o £10.50 i wneud cais am gopi.

Ildio trwydded bersonol

Os ydych chi'n dymuno ildio'ch trwydded bersonol, rhaid i chi ei dychwelyd i'r awdurdod trwyddedu a gyhoeddodd y drwydded, gyda llythyr yn datgan eich dymuniad.

Euogfarnau

Os byddwch yn ymddangos mewn llys ar gyhuddiad yn gysylltiedig â throsedd berthnasol, mae'n ofynnol i chi ddangos eich trwydded i'r llys.

Os na allwch ei chyflwyno, rhaid i chi roi gwybod i'r llys eich bod yn ddeiliad trwydded bersonol.

Os bydd llys yn eich cael yn euog o drosedd berthnasol, gall y llys orchymyn fforffedu neu atal eich trwydded a bydd yn hysbysu'r adran drwyddedu.

Hefyd, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r awdurdod trwyddedu os bydd llys yn eich cael yn euog o drosedd berthnasol a dychwelyd eich trwydded bersonol.

Mae methu â gwneud hynny yn drosedd o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

Cysylltu

Cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu yng Nghyngor Dinas Casnewydd.

E-bost: [email protected]