Afiechyd

Ffliw adar

DIWEDDARIAD: 29 Tachwedd 2021

Mae'r mesurau tai newydd, a ddaeth i rym ar ddydd Llun 29 Tachwedd, yn golygu ei bod yn ofyniad cyfreithiol i bawb sy’n cadw adar ledled y DU gadw eu adar dan do a dilyn mesurau bioddiogelwch llym er mwyn cyfyngu ar ledaeniad y clefyd a'i ddileu. 

Cewch ragor o fanylion ar Wefan Llywodraeth Cymru

11 Rhagfyr 2020 – Ffliw Adar mewn adar gwyllt

Mae gwyddau ac elyrch gwyllt yng Nghasnewydd wedi profi’n bositif ar gyfer y ffliw adar hynod heintus HPA1 H5H5

Peidiwch â chyffwrdd na chodi unrhyw aderyn marw neu sy’n ymddangos yn sâl y dowch ar eu traws.

Os dewch o hyd i adar y dŵr marw neu sâl yr olwg (elyrch, gwyddau neu hwyaid) neu adar gwyllt meirwon eraill, fel gwylanod neu adar ysglyfaethus, dylech ddweud wrth Linell gymorth DEFRA ar 03459 335577


Oherwydd y nifer gynyddol o achosion Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI) mewn dofednod yn Lloegr ac mewn adar gwyllt ledled Prydain Fawr, mae mesurau newydd wedi'u rhoi ar waith yng Nghymru i helpu i ddiogelu dofednod ac adar caeth eraill rhag ffliw adar.

14 Rhagfyr rhaid i bob ceidwad adar gadw eu hadar dan do a dilyn mesurau bioddiogelwch llym er mwyn cyfyngu ar ledaeniad y clefyd. Dysgwch fwy yma.

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob ceidwad gymryd ystod o ragofalon bioddiogelwch. Darllenwch Ganllawiau bioddiogelwch Llywodraeth Cymru i sicrhau eich bod yn bodloni’r gofynion.

Mae ffliw adar yn glefyd anifeiliaid hysbysadwy. Os ydych yn amau unrhyw fath o ffliw adar mewn dofednod neu adar caeth, rhaid i chi roi gwybod amdano ar unwaith drwy ffonio Llinell Gymorth Gwasanaethau Gwledig Defra ar 0300 303 8268.

Clefyd y Llengfilwyr

Mae clefyd y llengfilwyr yn fath angheuol posibl o niwmonia sy'n gallu effeithio ar unrhyw un, ond mae'n effeithio'n fwy aml ar bobl sy'n fregus oherwydd oedran, salwch, system imiwnedd wan, ysmygu ac ati.

Mae gan gyflogwyr a phobl sy'n gyfrifol am reoli eiddo, gan gynnwys landlordiaid, ddyletswyddau i reoli risg clefyd y llengfilwyr.

Mae'r ddyletswydd yn berthnasol i safleoedd a reolir mewn perthynas â masnach, busnes neu ymgymeriad arall lle caiff dŵr ei gadw neu ei ddefnyddio, neu lle mae modd o greu a throsglwyddo defnynnau dŵr y gellir eu hanadlu i mewn (aerosolau), gan achosi risg weddol ragweladwy o amlygu rhywun i facteria clefyd y llengfilwyr.

Darllenwch ragor ar adran Clefyd y Llengfilwyr gwefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Mae micro-organebau yn destun Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd 2002 (COSHH).

Mae dyletswydd ar gyflogwyr i gynnal asesiad ac atal amlygiad i risgiau clefyd y llengfilwyr, neu eu rheoli'n ddigonol, o dan y rheoliadau hyn.

Darllenwch ragor ar adran COSHH gwefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Tyrau oeri a chyddwyswyr anweddol

O dan Reoliadau Hysbysu am Dyrau Oeri a Chyddwyswyr Anweddol 1992, rhaid i gyflogwyr roi gwybod i'w hawdurdod lleol os oes ganddynt unrhyw dyrau oeri neu gyddwyswyr anweddol (heblaw pan fyddant yn cynnwys dŵr nad yw'n dod i gysylltiad ag aer ac nid yw'r cyflenwad dŵr a thrydan wedi'u cysylltu).

I ofyn am ffurflen gais neu roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch system, cysylltwch â ni drwy [email protected] neu ffoniwch 01633 656656.

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth, defnyddiwch y ffurflen gysylltu ar-lein, anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch (01633) 656656.