Asbestos

Bydd angen tynnu asbestos os bydd llwch yn debygol o gael ei ryddhau, os na fydd trwsio neu warchod yr asbestos yn ymarferol neu pan fydd gwaith cynnal a chadw cyffredin yn debygol o darfu ar y deunydd.

Dylai gwaith ar inswleiddio a lagio asbestos gael ei wneud gan gontractwr wedi'i drwyddedu gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn unig.

Darllenwch am asbestos a'i waredu'n ddiogel ar wefan yr HSE

Hysbysu am gael gwared ag asbestos

Mae'n ofynnol i'r rhan fwyaf o ddeiliaid trwydded roi gwybod i'r awdurdod gorfodi cywir o leiaf 14 diwrnod cyn dechrau gwaith trwyddedig ar asbestos.

Ewch i wefan yr HSE i gael rhagor o wybodaeth am hysbysu.

Gwaith didrwydded y mae angen hysbysu amdano

Daeth Rheoliadau Rheoli Asbestos 2012 i rym ar 6 Ebrill 2012 ac erbyn hyn, mae gofynion ychwanegol yn berthnasol i rai mathau o waith didrwydded sy'n ymwneud ag asbestos.

Darllenwch am waith didrwydded yn ymwneud ag asbestos, y mae angen hysbysu amdano, ar wefan yr HSE

Gwaredu asbestos 

Dylai gwastraff asbestos gael ei roi mewn bagiau polythen cryf dwbl a'i labelu'n glir gyda label rhagnodedig cyn cael ei gludo i safle gwaredu sydd wedi'i drwyddedu'n briodol.

Cysylltu

Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am dîm iechyd yr amgylchedd.