Cyllid ar gyfer Ymchwil a Datblygu

 

Talebau Arloesedd Llywodraeth Cymru

Mae Talebau Arloesedd Llywodraeth Cymru o hyd at £25,000 ar gael i helpu busnesau bach a chanolig gyda phob agwedd ar ymchwil a datblygu cynhyrchion arloesol, gan gynnwys costau eiddo deallusol. 

Cyllid Ymchwil a Datblygu SMARTCymru

Gall Llywodraeth Cymru ddarparu cymorth grant ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu mwy o'r cam dichonoldeb hyd at lansio cynhyrchion a phrosesau newydd i'r farchnad.

Gostyngiadau treth

Mae gostyngiadau treth hael ar gyfer gwariant ymchwil a datblygu ar gael gan Gyllid a Thollau EM.

Fel arall, mae credydau treth ar gael i'r busnesau hynny nad ydynt yn rhagweld gwneud elw yn y tymor byr.

Mae Blwch Patentau Tollau Tramor a Chyllid EM  yn galluogi cwmnïau i gymhwyso cyfradd is o Dreth Gorfforaeth i elw a enillwyd ar ôl 1 Ebrill 2013 o'i ddyfeisiadau patentau a rhai datblygiadau arloesol eraill.  

Prifysgolion

Gall prifysgolion roi cymorth helaeth i fusnesau sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil a datblygu.

Mae Casnewydd yn gartref i Brifysgol De Cymru sy'n gweithio gyda busnesau lleol ar ymchwil a datblygu

Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Busnes Cymru. 

Cyfnewidfa PDC

Cyfnewidfa PDC yw'r drws ffrynt ar gyfer ymgysylltu â busnesau ym Mhrifysgol De Cymru. Mae ein tîm o Reolwyr Ymgysylltu yn cefnogi amrywiaeth o heriau busnes drwy harneisio talent, arbenigedd a chyfleusterau Prifysgol De Cymru.

Cyllid Cymru

Gall Cyllid Cymru fuddsoddi mewn cwmnïau newydd, rhai sydd yn y camau cyntaf neu rai sefydledig sydd am ddatblygu a manteisio ar dechnoleg.

Cronfa Sbarduno Technoleg Cymru

Mae Cronfa Sbarduno Technoleg Cymru yn buddsoddi mewn busnesau newydd ym maes technoleg aflonyddgar, cwmnïau deillio prifysgolion a busnesau sy'n gyfoethog o ran Eiddo Deallusol sy'n symud tuag at fasnacheiddio. Gellir darparu ecwiti o rhwng £50,000 a £150,000.  Rheolir y gronfa hon gan Banc Datblygu Cymru.