Cyllid ecwiti

Mae buddsoddwyr yn dal cyfranddaliadau mewn busnes, neu'n cymryd perchenogaeth rannol ar y busnes, trwy gyllid ecwiti. 

Efallai bydd y buddsoddwr eisiau cyfle yn y dyfodol i werthu ei gyfran o'r busnes am elw. 

Mae Llywodraeth Cymru yn berchen ar Cyllid Cymru, sy'n gallu cynnig cyllid ecwiti yn ogystal â benthyciadau, yn aml fel rhan o becyn ehangach.

Angylion busnes

Mae angylion busnes yn unigolion sy'n awyddus i fuddsoddi mewn busnesau newydd neu ifanc a byddant yn rhoi arian yn gyfnewid am ddal cyfranddaliadau (ecwiti), sydd i'w trafod. 

Gall lefel cysylltiad yr angel â'r busnes amrywio o ddarparu cyllid yn unig, i chwarae rhan weithgar mewn rheoli neu gynnig maes arbenigedd penodol. 

Y prif rwydwaith o angylion busnes yng Nghymru yw Xenos.

Cyllido torfol

Yn achos cyllido torfol, bydd nifer fawr o bobl yn buddsoddi symiau bach mewn busnesau newydd. 

Maen nhw'n cael eu cysylltu trwy wefannau cyllido torfol sy'n cael eu rhedeg yn breifat, lle y bydd busnesau'n cyflwyno syniad er mwyn cael cyllid, gan ddatgan faint o arian y bydd arnynt ei angen i'r prosiect lwyddo. 

Mae unigolion yn addo arian, sy'n cael ei gymryd os bydd y targed buddsoddi'n cael ei gyrraedd. 

Bydd pawb sydd wedi ariannu yn dod yn gyfranddalwyr yn y busnes.

Cyfalaf menter

Mae cwmnïau cyfalaf menter yn buddsoddi ecwiti mewn busnesau uwch dechnoleg, a allai dyfu'n sylweddol ac sy'n aml yn fusnesau uchel eu risg.