Gwobr Ysbryd Casnewydd

Mae Gwobr Ysbryd Casnewydd yn cydnabod ac yn gwobrwyo pobl sy’n gwneud Casnewydd y ddinas y mae hi heddiw, boed hynny drwy ragoriaeth chwaraeon, gwaith elusennol, twf busnesau, y celfyddydau, dysgu, neu ddangos dewrder a gwydnwch yn wyneb trallod. 

Mae’r wobr yn gyfle i bobl Casnewydd enwebu’r bobl sydd wedi dangos i ni sut gall yr agwedd a’r dycnwch cywir gyflawni bron unrhyw beth, waeth beth fo’r amgylchiadau. 

Bydd y wobr yn cael ei rhoi pan fydd derbynnydd haeddiannol yn cael ei nodi, gallai hyn fod yn unigolyn, yn grŵp, yn sefydliad elusennol neu’n glwb chwaraeon.

Meini prawf y wobr

Mae’n rhaid i bobl sy’n ennill Gwobr Ysbryd Casnewydd fod â chysylltiad â Chasnewydd, megis: 

  • wedi cael eu geni yng Nghasnewydd
  • yn byw yng Nghasnewydd
  • yn gweithio yng Nghasnewydd 

Mae’n rhaid i’w hymdrechion fod yn amlwg un ai yng Nghasnewydd neu, oherwydd eu cysylltiad, mae’n rhaid i’w cyflawniadau fod wedi effeithio’n bositif ar enw da Casnewydd. 

Bydd derbynwyr wedi dangos gwydnwch yn wyneb heriau mawr iawn, y brwdfrydedd i fwrw ymlaen pan na fyddai pobl eraill wedi gwneud hynny, ac ymrwymiad i bobl eraill. 

Byddant yn gallu dangos gwydnwch, cryfder ac ymroddiad.  

Mae Casnewydd yn ddinas gynhwysol, ac mae Ysbryd Casnewydd yn wobr gynhwysol.

Mae grym ac effaith y cyfraniad at Gasnewydd yn llawer yn fwy pwysig na’r maes y gwneir y cyfraniad ato.

Sut i enwebu 

Mae enwebu unigolyn, clwb neu grŵp yn hawdd.

Llenwch y ffurflen enwebu ar-lein

Neu llenwch Ffurflen enwebu Ysbryd Casnewydd (pdf) a’i dychwelyd i:

Uwch Swyddog Partneriaeth, Pobl a Newid Busnes, Cyngor Dinas Casnewydd, Canolfan Ddinesig, Casnewydd NP20 4UR  

Y broses  

Wedi iddo gyrraedd, bydd eich enwebiad yn cael ei asesu gan banel yn cynnwys: 

  • Cynghorwyr o Gyngor Dinas Casnewydd
  • Prif Weithredwr Cyngor Dinas Casnewydd
  • Uwch gynrychiolydd o un o’n sefydliadau partner
  • aelod o banel dinasyddion Casnewydd a/neu’r cyngor ieuenctid

Yn dibynnu ar yr enwebiad, mae’n bosibl y byddwn yn cynnwys ‘arbenigwr’ o’r maes all roi cyngor ar gyfraniad yr enwebai. 

Bydd y panel yn cwrdd o fewn mis o dderbyn enwebiad i asesu yn erbyn meini prawf y wobr.

Os yw’n llwyddiannus, bydd yr enwebai a’r enwebwr yn cael gwybod a dyddiad yn cael ei drefnu er mwyn cyflwyno’r wobr.

Manylion Cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y tîm polisi a phartneriaeth.