Pillgwenlly
Mae tua £6 miliwn wedi’i wario ym Mhilgwenlli diolch i raglen a arweinir gan Gyngor Dinas Casnewydd gyda chefnogaeth ariannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Arian Cyfatebol a Dargedir.
Mae Mariner’s Green wedi’i ailddylunio ac mae bellach yn gartref addas i gofeb y Llynges Fasnachol a’r gofeb VEVJ a symudwyd o Commercial Street.
Defnyddiodd nifer o fusnesau grantiau busnes i wella eu heiddo, gan eu moderneiddio a chadw golwg ac ymdeimlad yr hen adeiladau traddodiadol.
Mae Academi Dysgu Cymunedol Pilgwenlli yn hen lyfrgell Pilgwenlli ac yn cynnig cyfleoedd hyfforddi galwedigaethol i drigolion lleol.
Comisiynwyd tri darn newydd o waith celf ac maent bellach yn eu lle.
Mae Hanes Porthladd Casnewydd a grëwyd ar 14 Gorffennaf 2014 yn dathlu canmlwyddiant agoriad Loc Mawr y De, a chafodd ei greu gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Pilgwenlli, gyda chefnogaeth Cymdeithas Porthladdoedd Prydain.
TRA101665 3/5/2019