Arcêd Marchnad

Market Arcade logo fc

Gwirfoddolwyr

Rydym yn chwilio am bobl a hoffai helpu'r prosiect drwy wirfoddoli ar gyfer nifer o rolau. Mae arnom angen pobl a allai ddarparu cymorth fel a ganlyn:

  • Pobl i gwrdd a chyfarch yn ein Canolfan Dros Dro sy'n agor fis nesaf.
  • Ymchwilwyr i ymchwilio i hanes yr arcêd a'r strydoedd cyfagos.
  • Cyfwelwyr Hanes Llafar.
  • Hwyluswyr i weithio gydag ymwelwyr ar ddiwrnodau agored ac arddangosfeydd.
  • Tywyswyr a chefnogwyr teithiau.

Bydd cyfweliad anffurfiol, a rhoddir hyfforddiant.  Os ydych chi'n meddwl yr hoffech chi helpu yn un o'r rolau hyn ysgrifennwch atom yn [email protected] 

Statws presennol

Mae'r gwaith yn yr Arcêd wedi datblygu'n dda yn 2021, ac mae disgwyl i'r gwaith adfer gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae gwaith adfer i flaen y siopau bron wedi gorffen, ac mae gwaith cyfleustodau i'r Arcêd yn mynd rhagddo. 

Tra bo’r gwaith wedi bod yn mynd rhagddo, bu dau ddigwyddiad arbennig dros yr haf.

Cyflwynodd disgyblion o ysgol Gynradd Sant Gwynllyw gapsiwl amser i dîm y prosiect a gladdwyd yn ddiweddarach o dan loriau newydd yr arcêd.

Mae tîm y prosiect wedi bod yn gweithio gyda'r ysgol ar amrywiaeth o weithgareddau, a'r canlyniad oedd cynhyrchu a chladdu'r capsiwl.

Roedd eitemau a gladdwyd yn y capsiwl yn cynnwys hen basbort, ffôn clyfar, stampiau gwylio a phostio, rhestr o pam y cafodd pob eitem ei chynnwys, a llythyr a ysgrifennodd y disgyblion at y dyfodol.

Cymerodd y prosiect ran hefyd yn nigwyddiad Drysau Agored Cadw ym mis Medi, a welodd gyfres gyfyngedig o deithiau o amgylch y safle ar gael i'r cyhoedd.

Roedd perthnasau hen weithwyr a pherchnogion siopau yn yr arcêd ymhlith y rhai ar y teithiau ac yn cofio atgofion melys o'u hamser yn yr arcêd.

Profodd y teithiau'n boblogaidd iawn, ac mae tîm y prosiect yn edrych ar redeg fwy ar ôl i'r gwaith adfer orffen.

Edrychwch y tu ôl i'r llenni ym mhrosiect adfer Arced y Farchnad Casnewydd

Unedau sydd ar gael

Mae unedau ar gael o hyd yn yr Arcêd, ac mae'r cyngor yn gweithio gyda darpar fusnesau sydd â diddordeb mewn unedau prydlesu.

Os oes gennych ddiddordeb mewn symud eich busnes presennol i'r Arcêd, neu sefydlu un newydd, yna cysylltwch â ni drwy [email protected].

Cefndir y project 

Yn 2018, sicrhaodd Cyngor Dinas Casnewydd arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Treftadaeth Treflun, i adfer ac adfywio Arcêd y Farchnad yn y ddinas.

Y strwythur rhestredig gradd II Fictoraidd yw’r arcêd hynaf yng Nghasnewydd sydd wedi goroesi, yr ail hynaf yng Nghymru a'r 13eg hynaf yn y DG. 

Ar ôl dirywio a dadfeilio dros amser, roedd dyfodol un o brif asedau treftadaeth Casnewydd dan fygythiad. 

Nod y prosiect adfer yw ailgysylltu perchnogion, masnachwyr a phobl Casnewydd ag arwyddocâd hanesyddol yr arcêd a'i rôl yn nhwf y ddinas. 

Bydd yr arcêd yn cael ei ailddiffinio fel atyniad masnachol bywiog a hyfyw o fewn ardal gadwraeth y ddinas.

Market Arcade artists impression

Argraff artist o Arcêd y Farchnad ar ôl ei hadfer.

Hanes

Deifiwch i hanes yr arcêd gyda thîm y prosiect.

Arcêd Fennell oedd yr yn enw gwreiddiol arni, fe’i hadeiladwyd oddi ar y Stryd Fawr yn 1869, gan gysylltu'r orsaf reilffordd newydd (1850), Swyddfa'r Post (1844) a'r Farchnad Nwyddau (1862). 

Defnyddiwyd yr arcêd yn helaeth am dros ganrif, a chafodd ei chofio'n annwyl fel 'arcêd o flodau', nes i arferion siopa newid ac i ganolfan fanwerthu Casnewydd symud.

Cynhaliwyd digwyddiad Atgofion am Arcêd y Farchnad rhwng 29 Mehefin - 1 Gorffennaf 2017 a gwahoddwyd pobl i rannu eu hatgofion, eu ffotograffau a'u hatgofion yn ymwneud ag Arcêd y Farchnad. 

Market Arcade memories event June 2017

Digwyddiad Atgofion Arcêd y Farchnad, 2017

Os oes gennych straeon neu ffotograffau rydych yn barod i'w rhannu anfonwch e-bost [email protected] dan y pennawd 'Arcêd y Farchnad' - bydd eich atgofion yn ychwanegu at hanes cyfoethog Arcêd y Farchnad a gallai roi cipolwg ar fanylion pensaernïol sydd wedi'u colli ers tro byd. 

Cynnwys y gymuned 

Dangosodd digwyddiadau gyda phobl leol yn ystod cam datblygu'r prosiect fod straeon sylweddol i'w hadrodd, nid yn unig am Arcêd y Farchnad ei hun, ond hefyd am y rôl allweddol chwaraeodd y rhan hon o'r ddinas drwy gydol hanes Casnewydd.  

Yn hytrach na dim ond arcêd siopa neu lwybr tarw cyfleus, gallai Arcêd y Farchnad fod yn fodd o ddarganfod calon hanesyddol Casnewydd, gan helpu i ailgynnau atgofion melys o ansawdd, hunaniaeth a chyfeillgarwch.  

Mae'r prosiect yn cynnwys cyfleoedd i bobl leol gael mynediad, i ddysgu, mwynhau a chymryd rhan yn y dreftadaeth sy'n gysylltiedig â'r arcêd. 

Mae'r gweithgareddau arfaethedig yn cynnwys datblygu llwybrau trysor, arddangosfeydd graffeg yn amlinellu arwyddocâd hanesyddol a dylunio pwynt dehongli ar gyfer y Stryd Fawr.  

Os hoffech chi, neu grŵp rydych chi'n gyfarwydd â nhw, fod yn rhan o'r gwaith o gyflawni'r gweithgareddau hyn anfonwch e-bost at [email protected] o dan y pennawd 'Arcêd y Farchnad'.

Public Space Protection Order (PSPO)

The Market Arcade PSPO (pdf) is in operation from 16 November 2020. 

 Market Arcade lottery logos

TRA125962 30/09/2020