Hybiau Cymdogaeth

Hubs people

Mae Hybiau Cymdogaeth Casnewydd yn cynnig mynediad rhwydd at wasanaethau hanfodol i breswylwyr mewn cymunedau lleol. 

Oriau agor: 9am-4pm

Cymorth iechyd a lles yn eich hyb cymdogaeth 

Mae sesiynau galw heibio i bobl sy'n chwilio am gyngor ar ddychwelyd i'r gwaith, dod o hyd i swydd well neu wella eu sgiliau ar gael yn hybiau cymdogaeth Casnewydd.

Fel rhan o brosiect rhanbarthol o'r enw CELT (Connect, Engage, Listen, Transform) bydd y sesiynau am ddim yn canolbwyntio ar gymorth iechyd, lles a chyflogaeth.

Mae'r timau yn yr hybiau yn galw'n arbennig ar rieni a gofalwyr sydd â phlant yn dechrau yn yr ysgol ym mis Medi ac efallai'n ystyried beth i'w wneud nesaf.  Bydd cyngor a chymorth i wella eu rhagolygon cyflogaeth, eu sgiliau neu eu cymwysterau.

Bydd y sesiynau canlynol yn cael eu cynnal yn Hybiau Cymdogaeth y Canolbarth a'r Dwyrain:

  • Coffi ac Ymlacio: Lle gall rhieni ddod draw am goffi, a byddwn yn edrych ar bwnc gwahanol bob wythnos (e.e. tai/iechyd meddwl/cyllid) gan orffen gyda dysgu am ymwybyddiaeth ofalgar.
  • Teithiau Cerdded Lles (gan gysylltu â Thimau Datblygu Cymunedol):  Ar agor i'r teulu cyfan gydag arhosiad posibl mewn parc. Dangos manteision bod yn yr awyr agored a bod yn egnïol.
  • Archwiliwch eich Dyfodol:Edrych ar symud rhieni yn nes at gyflogaeth/uwchsgilio.  Bydd hon yn rhaglen dreigl sy'n edrych ar Nodau/Rhwystrau, CV/Chwilio am Swyddi ac annog cyfranogwyr i ennill cymwysterau ac ymgysylltu â'n contractau cyflogaeth
  • Cymorth mewn sesiynau grŵp neu 1:1

 I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Danielle ar 07837 394152 neu e-bostiwch [email protected]

Angen cyngor cyflogaeth? Gallwn ni helpu

Gallwn roi cymorth a chyngor os oes risg y caiff eich swydd ei dileu neu os yw eich swydd wedi’u dileu’n ddiweddar, os ydych ar ffyrlo, neu os ydych yn gweithio contractau dim oriau.

Cysylltwch â ni am fentora cyflogaeth, cymorth i ysgrifennu CV a cheisiadau am swyddi, cyrsiau am ddim sy'n gysylltiedig â chyflogaeth, cyngor ar sut i gael cymorth ariannol e.e. ar gyfer dillad cyfweliad, teithio i gyrsiau hyfforddi a chyfweliadau, mynediad digidol a chymorth, gofal plant a banciau bwyd.

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch radffon 08081 963482 neu e-bostiwch eich Hyb lleol isod.

Teuluoedd yn Gyntaf

Ewch i Teuluoedd yn Gyntaf Casnewydd i ddarllen sut mae'r rhaglen hon gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn tlodi.  

Lawrlwythwch Ffurflen hunanatgyfeirio Teuluoedd yn Gyntaf (Word).

Lawrlwythwch y  Ffurflen atgyfeirio Teuluoedd yn Gyntaf i'w defnyddio gan weithwyr proffesiynol (Word)

Gall gwasanaethau eraill a gynigir gan yr Hybiau gynnwys:

  • Dechrau'n Deg  - grwpiau ar gyfer babanod, plant bach a chymorth rhieni  
  • cymorth rhianta ar-lein am ddim i bob preswylydd – defnyddiwch y cod mynediad SWSOL
  • clybiau chwarae ac ieuenctid i blant a phobl ifanc
  • dosbarthiadau a chyfleoedd i oedolion ymgymryd â dysgu achrededig ac achlysurol
  • gwasanaethau a digwyddiadau llyfrgell 
  • cymorth i bobl ifanc 11-25 oed 
  • gweithgareddau ar ôl ysgol a chynlluniau chwarae yn ystod gwyliau'r ysgol 
  • dosbarthiadau Cymraeg 
  • cymorth Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill
  • ailddosbarthu bwyd cost isel o ansawdd i bobl mewn angen
  • projectau cymunedol, e.e. casglu sbwriel, hyrwyddwyr iechyd cymunedol, projectau tyfu cymunedol
  • Gweithgareddau iechyd a ffitrwydd 
  • Ailgylchu - casglwch eich bagiau gwastraff bwyd gwyrdd o'ch Hyb lleol 

Hyb Eich Cymdogaeth  

Yr Hyb Canolog

Pill Millennium Centre, Courtybella Terrace, Newport, NP20 2GH

E-bost: [email protected]

Yn gwasanaethu Pillgwenlli, Victoria, Stow Hill, Allt-yr-ynn. 

Hyb y Dwyrain

282 Ringland Circle, Casnewydd NP19 9PS (hen ganolfan gymunedol Ringland)

E-bost:  [email protected]

Yn gwasanaethu Ringland, Alway, Somerton, Llyswyry, Beechwood, Sain Silian, Langstone, Lanwern 

Hyb y Gogledd 

Bettws Community Centre, 43 The Precinct, Bettws NP20 7TN

E-bost: [email protected]

Yn gwasanaethu Betws, Malpas, Shaftesbury, Chaerllion.

Hyb y Gorllewin

Canolfan Gymunedol Maesglas, Bideford Road, Casnewydd, NP20 3XT

E-bost:  [email protected]

Yn gwasanaethu Tredegar Park, y Gaer, Tŷ-Du, Graig, Maerun