Lleoliad

Mae Casnewydd 90 munud yn unig o Lundain ar y trên ac mae gwasanaethau bws yn mynd yn uniongyrchol o feysydd awyr Heathrow a Gatwick a chanolfannau mawr eraill. Mae Meysydd Awyr Rhyngwladol Caerdydd a Bryste o fewn taith awr mewn car.

Ewch i’n tudalennau ffyrdd a chludiant i gael gwybodaeth am barcio ceir a chysylltiadau bws a rheilffordd lleol yng Nghasnewydd.

Ar y trên

Oherwydd ei lleoliad ar y brif reilffordd rhwng Caerdydd a Llundain, mae Casnewydd yn cynnig gwasanaethau trên uniongyrchol i Gaerdydd, Abertawe, Manceinion, Birmingham, Caergybi, Nottingham, Birmingham, Bryste a Llundain.

Mae amserlenni trên ar gael o wefan National Rail Enquiries

Ar y ffordd

Lleolir Casnewydd ar goridor yr M4 dim ond 12 milltir o Gaerdydd ac fe’i gwasanaethir gan 6 chyffordd. 

M4 junctions serving Newport

Rhif Cyffordd M4

Enw

24

Y Coldra

25

Ffordd Caerllion

25A

Grove Park

26

Ffordd Malpas

27

High Cross

28

Parc Tredegar

Yn ogystal, caiff Casnewydd ei gwasanaethu gan wasanaeth bws uniongyrchol o nifer o ganolfannau mawr yn y DU. Mae amserlenni a gwybodaeth am archebu tocynnau ar gael gan National Express.

Mewn awyren

Mae Maes Awyr Caerdydd a Maes Awyr Bryste o fewn taith awr i'r ddinas.

Mae'r ddinas hefyd yn cael ei gwasanaethu gan wasanaethau bws uniongyrchol o feysydd awyr HeathrowGatwick. Mae amserlenni a gwybodaeth am archebu tocynnau ar gael gan National Express