Sgiliau yn y Gwaith
Project pedair blynedd yn ne-ddwyrain Cymru wedi’i ariannu gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd i gynyddu lefelau sgiliau, gan gynnwys sgiliau gwaith, pobl yn y gweithlu heb lawer o sgiliau os o gwbl.
Ein nod yw gweithio gyda dros 1500 o bobl gyflogedig sydd angen cymorth i ennill cymwysterau, gan helpu i gynnal cyflogaeth a chynyddu potensial enillion.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn arwain ac yn rheoli'r project Skills@Work ar ran Cyngor Dinas Caerdydd a Chyngor Sir Fynwy sy’n rhoi cymorth ar draws y rhanbarth.
Yr hyn a wnawn
Gallwn helpu gyda:
- rhaglen i helpu ag ail-ymgysylltu yn seiliedig ar eich anghenion
- cymorth, cyngor, canllaw a mentora un i un
- cymorth ar gyfer llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a magu hyder
- materion personol
- cymorth cyflogadwyedd
- cymwysterau
- asesiadau sgiliau hanfodol
- sgiliau technegol neu sy’n benodol i swydd
- cyngor a chanllawiau cwrs
- adolygiad ac asesiad parhaus o gynnydd bob person
- cyngor a chymorth ariannol
Cyswllt
Neu cysylltwch â’r tîm arweiniol canolog ar Skills.AtWork@newport.gov.uk
Ariennir Skills@Work gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd
TRA106683 13/8/2019