Bydd Cymru yn elwa o ryw £1.8 biliwn o fuddsoddiad ariannol gan yr Undeb Ewropeaidd rhwng 2014 a 2020.
Yng Nghasnewydd, cafwyd arian gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ar gyfer y prosiect Ysbrydoli i Gyflawni.
Ysbrydoli i Gyflawni
Dechreuodd y prosiect tair blynedd hwn ym mis Ebrill 2016 gyda'r nod o leihau nifer y bobl ifanc 11-24 oed sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn ne-ddwyrain Cymru.
Nod Ysbrydoli i Gyflawni yw annog bron 4,000 o bobl ifanc o bedwar awdurdod lleol i gymryd rhan, gan weithio gyda Gyrfa Cymru a dau goleg addysg bellach i leihau'r nifer sy'n gadael yr ysgol a'r coleg yn gynnar, ac atal hynny, a darparu llwybrau eraill tuag at addysg a hyfforddiant.
Gall y tîm helpu pobl ifanc drwy unrhyw anhawster a allai olygu eu bod mewn perygl o roi'r gorau i'r ysgol neu'r coleg, neu gael eu tynnu oddi ar gwrs, gan gynnwys:
- Dewis neu newid cyrsiau
- Dysgu pellach
- Anawsterau pontio
- Cyngor gyrfaol
- Ysgrifennu CV a gwneud cais am swyddi
- Sgiliau astudio
- Cymorth academaidd
- Technegau adolygu
- Delio â straen a gorbryder
- Cyngor ariannol
- Problemau personol
- Problemau presenoldeb
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn arwain ac yn rheoli'r prosiect ar ran y sefydliadau lleol eraill:
Manteision
Nod Ysbrydoli i Gyflawni yw:
- sicrhau bod y bobl ifanc sydd â'r risg fwyaf iddynt yn cael eu hadnabod a'u helpu fel y byddant yn parhau mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant a bod llai o risg iddynt. Bydd hyn yn lleihau'r tebygolrwydd y bydd tlodi parhaus neu dlodi yn y dyfodol ymhlith pobl ifanc.
- gwella iechyd a lles pobl ifanc
- sicrhau bod awydd gan bobl ifanc i weithio a bod eu dyheadau'n uwch
Perfformiad 2016-2017
Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn mesur perfformiad o gymharu â'r deilliannau canlynol:
1) nifer y cyfranogwyr sy'n ennill cymhwyster llawn wedi'i achredu
2) nifer y cyfranogwyr sy'n mynd ymlaen i addysg bellach neu hyfforddiant
3) nifer y cyfranogwyr sydd mewn llai o berygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
Yn y flwyddyn gyntaf, mae Ysbrydoli i Gyflawni wedi cyflawni'r canlyniadau canlynol ar draws rhanbarth de-ddwyrain Cymru.
Rhanbarth Ysbrydoli i Gyflawni de-ddwyrain Cymru, 2017/2018
|
Targed |
Gwirioneddol |
Y rhai sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant |
1219 |
1036 |
Dynion |
719 |
566 |
Menywod |
500 |
470 |
Cysylltu
Anfonwch e-bost at inspire@newport.gov.uk neu ffoniwch 07791 471 261