Datblygiadau eraill

Glan_Llyn_October_2014 (1)

Glan Llyn

Mae Glan Llyn (gweler y llun) yn broject 20 mlynedd i drawsffurfio hen safle 6oo acer gwaith dur Llanwern 600 yn gymuned gynaliadwy werth £1bn.

Mae datblygwr y safle, St Modwen, yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd i gyflawni 6,000 o swyddi newydd, ynghyd â 4,000 o gartrefi newydd yng Nglan Llyn. 

Ymhlith y gwasanaethau cyhoeddus bydd dwy ysgol gynradd, ardaloedd cymunedol, siopau a chaffis ynghyd â thir parciau a chyfleusterau chwaraeon. 

Bydd datblygiad Parc Busnes Celtic gwerth £1.5m gyda gofod swyddfeydd a diwydiannol a warws yng nghanol Glan Llyn, yn helpu i ddod â chyfleoedd swyddi newydd i’r ardal.

Yn ddiweddar, agorodd un o fawrion siopa, Amazon, safle cludo ar y safle gan gyflogi dros 50 o bobl.

Bydd y project hefyd yn integreiddio cysylltiadau trafnidiaeth, gan gynnwys ffyrdd, llwybrau beicio, gwasanaethau bysus a llwybrau cerdded.

Mae gorsaf drenau newydd wedi’i chynnig yn y datblygiad hefyd, ynghyd â gwasanaeth parcio a theithio i 100. 

Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru

Yn 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n cynnig arian cyfatebol ar gyfer cam cyntaf project i greu canolfan gynadledda benigamp yng Nghasnewydd.

Rhoddodd Cyngor Dinas Casnewydd ganiatâd cynllunio i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru i gael ei hadeiladu yng Ngwesty’r Celtic Manor. Dechreuodd y gwaith ym mis Chwefror 2017 a disgwylir i’r ganolfan agor yn 2019, gan ddod ag elw economaidd o £70 miliwn a 100,000 o arosiadau dros nos newydd i’r ardal bob blwyddyn.

Gyda’r nod o ddenu prif ddigwyddiadau o bob cwr o’r byd, bydd gan yr awditoriwm penigamp, y neuadd arddangos a’r cyfleusterau cysylltiedig gapasiti ar gyfer hyd at 4,000 o gyfranogwyr, gan olygu mai hwn fydd y cyfleuster mwyaf o’i fath yng Nghymru a de-orllewin Lloegr. 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol.

Cambrian ac Admiral

Mae prif safle yng nghanol y ddinas gyferbyn â’r orsaf drenau wedi’i ailddatblygu ac yn gartref i Admiral Group plc gyda mwy na 450 o gyflogeion. 

Mae’r cynlluniau hirdymor ar gyfer yr ardal yn cynnwys 28,000 troedfedd sgwâr o ofod manwerthu, 290 o fannau parcio ceir a phlaza cyhoeddus newydd. 

Ardal Gwella Busnes 

Gwnaeth busnesau yng nghanol dinas Casnewydd bleidleisio i sefydlu Ardal Gwella Busnes (AGB) o’r enw Newport Now, o 1 Ebrill 2015, i wella’r amgylchedd masnachu a chreu profiad gwell i ymwelwyr.

Darllenwch fwy am AGB Casnewydd 

Tasglu ReNewport

Yn ystod gwanwyn 2013, penodwyd tasglu’r ddinas gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth adfywio economaidd tymor canolig ar gyfer canol dinas Casnewydd. 

Gwnaeth y tasglu, oedd yn cael ei gadeirio gan Simon Gibson o Wesley Clover, gyhoeddi eu hadroddiad ym mis Rhagfyr 2013 gydag argymhellion a chamau gweithredu fyddai’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i ganol dinas Casnewydd a Chasnewydd yn rhan o’r ddinas-ranbarth.

Yn uwchgynhadledd y ddinas ym mis Chwefror 2014, cyhoeddwyd y byddai Llywodraeth Cymru’n rhyddhau arian ar gyfer gwaith dichonolrwydd ar brojectau oedd yn rhan o adroddiad ReNewport.

Nododd Llywodraeth Cymru bod swyddogion yn gweithio gyda’r tasglu ar gynlluniau i sefydlu Cwmni Arloesedd Dinas yn seiliedig ar ddatblygu eiddo deallusol, yn gweithredu fel hwb i ddenu cyllid a buddsoddwyr, tra’n helpu cwmnïau bychan i dyfu.

Nododd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, y byddai cyllid yn dod ar gael i ymgymryd â gwaith dichonolrwydd oedd yn angenrheidiol i fwrw ymlaen ag argymhellion eraill yr adroddiad, megis asesu hyfywedd rhaglen reoli buddsoddiad canol tref.