Dinas Democratiaeth

Yn ôl adroddiad, dylai Casnewydd a oedd unwaith yn gartref i fudiad y Siartwyr ddod yn Ddinas Democratiaeth a chynnal gŵyl ddemocratiaeth.

Mae arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox yn cefnogi’r syniad, ynghyd â busnesau, addysg a sefydliadau etifeddiaeth.

Ymhlith argymhellion ResPublica mae:

  • Cytuno ar strategaeth frandio ar gyfer y Ddinas Democratiaeth
  • Mesurau i gefnogi cydweithrediadau a chydberchnogaeth ar gyfer busnesau lleol sefydledig a newydd
  • Ystyried rhoi Stori Casnewydd yn y cwricwlwm ysgol
  • Defnyddio panel dinasyddion Casnewydd i dreialu dulliau democratiaeth digidol newydd a chydweithredol.
  • Cyfrannu at drafodaethau ynglŷn â diwygio etholaethol
  • Creu Gŵyl Ddemocratiaeth, gan gyfeirio at gyd-destunau hanesyddol a modern, gan greu dadleuon ac annog defnyddio dulliau democrataidd newydd mewn ffyrdd gwahanol.

Lawrlwythwch grynodeb o’r adroddiad a’r argymhellion (pdf)

Ewch i wefan ResPublica i ddarllen yr adroddiad llawn