Cronfa'r cyfamod

Mae gan Weinyddiaeth Amddiffyn y DU (MoD) gronfa gyfamod werth £10 miliwn bob blwyddyn i’w rhannu â phrojectau sy’n cefnogi nodau’r cyfamod lluoedd arfog a’r gymuned lluoedd arfog ledled y DU.

Nod y gronfa cyfamod yw sefydlu etifeddiaeth o ran gwaith ac egwyddorion y cyfamod lluoedd arfog.

Mae’n rhaid i brojectau sy’n ymgeisio am gyllid gan y gronfa cyfamod gefnogi’r themâu canlynol:  

  • Gwasanaethau gofal iechyd nad ydynt yn rhai craidd i gyn-filwyr
  • Dileu rhwystrau i fywyd teuluol
  • Cymorth ychwanegol ar ôl gwasanaeth i’r rheiny sydd angen cymorth
  • Mesurau i integreiddio cymunedau milwrol a sifil ac i alluogi’r gymuned lluoedd arfog i gyfrannu fel dinasyddion. 

Mae Panel y Gronfa Cyfamod yn cynnwys aelodau sydd wedi’u penodi fydd yn penderfynu pa brojectau fydd yn derbyn arian. 

Pan fydd sefydliad yn ymgeisio i’r gronfa cyfamod, dyrennir grantiau’n unol â’r meini prawf cytunedig ar ôl proses gwneud penderfyniad ymlaen llaw gyda Phanel y Gronfa Cyfamod.

Cyllid cyfamod 2018/19

Dyma’r blaenoriaethau cyllid ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019:

  • Cyfamod lluoedd arfog: grantiau lleol a datblygiad digidol
  • Cymunedau cadoediad a’r lluoedd arfog: cefnogi cymunedau lleol i ystyried y cyfamod lluoedd arfog a’i berthnasedd heddiw yng nghyd-destun coffâd y Rhyfel Mawr.

Cyhoeddir blaenoriaethau eraill yn y misoedd nesaf.

Mae dwy lwybr cyllid ar gael:

  • grantiau bychain, ar gyfer ceisiadau hyd at uchafswm o £20,000 
  • grantiau mawr, ar gyfer ceisiadau rhwng £20,0001 a £500,000. 

Bydd ceisiadau lleol Cymreig yn cael eu derbyn gan Fwrdd Gweinyddiaeth Datganoledig Rhanbarthol (RDAB), a reolir gan Bencadlys Brigâd Troedfilwyr 160, i bennu addasrwydd ac angen.

Dylai grwpiau a sefydliadau Casnewydd drafod eu bid gyda Fforwm Lluoedd Arfog Casnewydd lleol, cysylltwch â:

Swyddog Cyswllt Cyfamod Lluoedd Arfog Rhanbarthol, e-bost [email protected] neu ffoniwch (01443) 864447 neu 07717 467341.

Ymwelwch â Chyllid Cyfamod y Weinyddiaeth Amddiffyn i wneud cais 

 Bydd y Bwrdd Cyfamod yn gwneud y penderfyniad terfynol ar addasrwydd y ceisiadau ar ôl cael cyngor ac adborth gan y Byrddau Gweinyddiaeth Datganoledig Rhanbarthol.