Cyfamod cymunedol

Armed Forces Day

Llofnodwyd Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Casnewydd ym Mhared Rodney ar 25 Chwefror 2016.

Mae’r cyfamod yn cydnabod yr aberth a wnaeth aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd. 

Mae’r cyfamod yn addewid gwirfoddol sy’n annog sefydliadau, busnesau a chymunedau i weithio gyda’r lluoedd arfog i gynnig cymorth i ddynion a menywod yn y lluoedd, eu teuluoedd, milwyr wrth gefn a chyn-filwyr.

Mae’n cydnabod ac yn cofio’r aberth a wnaeth aelodau’r gymuned lluoedd arfog a’u teuluoedd yng Nghasnewydd.  

Mae’r sefydliadau hyn wedi llofnodi’r cyfamod cymunedol:

  • Cyngor Dinas Casnewydd
  • Bwrdd Gwasanaethau Lleol Casnewydd yn Un
  • Catrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol 
  • Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
  • Lleng Brydeinig Frenhinol Gwent
  • SSAFA Gwent
  • Lleng Brydeinig Frenhinol, Casnewydd
  • Cymdeithasau Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO)

Lawrlwytho Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Casnewydd  (pdf)