Gwybodaeth a chymorth y lluoedd arfog

Cyfeiriadur Cymorth Gwenti'r Lluoedd Arfog

Porth Cyn-filwyr 

Y Porth Cyn-filwyr yw'r pwynt cyswllt cyntaf i gyn-filwyr sy'n ceisio cymorth. Cyn-filwr yw unrhyw un sydd wedi gwasanaethu am o leiaf un diwrnod yn Lluoedd Arfog EM (Rheolaidd neu Wrth Gefn) neu Forwyr Masnachol sydd wedi gwasanaethu ar weithrediadau milwrol. 

Neges destun:  81212

Ffôn: 0808 802 1212 - mae llinellau ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru ac mae wedi cyhoeddi Pecyn Cymorth ar wefan Llywodraeth Cymru.
 

Dolenni defnyddiol eraill 

ABF Elusen y Milwyr – Yr elusen genedlaethol sy’n rhoi cymorth i filwyr a chyn-filwyr a'u teuluoedd agos pan fônt mewn angen.  

Alabare – Cartrefi i Gyn-filwyr Cymru – rhoi llety â chymorth i gyn-filwyr lluoedd arfog Prydain sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref.

Alcoholics Anonymous – cymorth a chyngor ar fod yn gaeth i alcohol.

Ymddiriedolaeth Addysg y Lluoedd Arfog – elusen sy'n gweithio i blant ac oedolion ifanc y mae eu haddysg wedi cael ei pheryglu o ganlyniad i wasanaeth presennol neu flaenorol rhieni yn y Lluoedd Arfog.

Blesma – helpu dynion a menywod sydd yn y lluoedd neu oedd yn arfer bod ac sydd wedi colli breichiau neu goesau, neu wedi colli’r gallu i ddefnyddio breichiau, coesau neu lygaid, i ail-adeiladu eu bywydau drwy gynnig gweithgareddau adsefydlu a chymorth llesiant. 

Blind Veterans UK – Mae Blind Veterans UK yn helpu dynion a menywod dall oedd yn arfer bod yn y lluoedd i arwain bywydau annibynnol a llawn. 

Partneriaeth Pontio Gyrfaoedd (CTP) – cyrsiau hyfforddi, recriwtio a chyngor gyrfaoedd i bobl sy’n gadael y lluoedd sy’n cael eu hadsefydlu.

Change Step -  Rhaglen cymorth i gyn-filwyr yng Nghymru sy'n ceisio helpu cyn-filwyr a'u teuluoedd i fynd i'r afael â straen difrifol a heriau sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl.

Canolfan Cyngor ar Bopeth – gwybodaeth a chyngor ar ddim ar arian, y gyfraith a phroblemau cysylltiedig eraill.

Combat Stress – elusen iechyd meddwl arweiniol cyn-filwyr y DU.

Combat Stress - prif elusen iechyd meddwl cyn-filwyr y DU.

Dewis Cymru – adnodd i ddod o hyd i wybodaeth a chyngor ar les - gan gynnwys bod yn iach, bod yn gymdeithasol, bod yn ddiogel a rheoli eich arian.

Gamblers Anonymous – help i bobl sydd â phroblem gamblo gan gynnwys fforwm, ystafell sgwrsio, llenyddiaeth, ac yn bwysicach na dim, teclyn chwilota cyfarfodydd.

Help for Heroes – sefydlwyd yn 2007 i roi cymorth uniongyrchol ac ymarferol i bersonél oedd wedi’u hanafu neu’n sâl, ac i gyn-filwyr a’u hanwyliaid.

Hire a Hero – cefnogi’r rheiny sy’n gadael y lluoedd a chyn-filwyr i wneud trosglwyddiad llwyddiannus i fywyd dinesydd.

Canolfan Byd Gwaith – ceisio helpu pobl o oedran gwaith i ddod o hyd i waith yn y DU.

Melo – gwybodaeth, cyngor ac adnoddau hunangymorth gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan i'ch helpu i ofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles 

Mind Cymru – yn gallu helpu os ydych yn cael problemau iechyd meddwl neu’n mynd trwy gyfnod anodd yn eich bywyd. 

MOD and Veterans UK - Gwybodaeth i Gyn-filwyr sydd angen cymorth brys

Canolfan Cyn-filwyr Casnewydd - grŵp cymdeithasol a chymorth i gyn-filwyr sy'n ceisio dileu unigedd ymysg cyn-filwyr a rhoi lle iddynt gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd, gan greu eu rhwydwaith cymorth eu hunain. 

Clwb Brecwast Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr Casnewydd - grŵp cymdeithasol ar gyfer aelodau sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr sy’n byw yng Nghasnewydd. 

Casnewydd Fyw – nofio am ddim i Gyn-filwyr gyda cherdyn braint Defence ar adegau nofio cyhoeddus a chyfraddau aelodaeth gorfforaethol i'r rhai sy'n gwasanaethu neu'n derbyn pensiwn milwrol. 

The Poppy Factory – cefnogi dynion a menywod oedd yn arfer bod yn y lluoedd arfog gyda heriau iechyd i gyflogaeth werth chweil. 

RAFBF – cronfa lesiannol y Llu Awyr Brenhinol – elusen llesiant arweiniol y LlAB ar gyfer cyn-aelodau ac aelodau’r LlAB, eu partneriaid a’u plant dibynnol.

REFA (elusen cyflogaeth y lluoedd) – rhoi cymorth, cyfleoedd hyfforddiant a swyddi sy’n newid bywyd am oes i bobl sy’n gadael y lluoedd a chyn-filwyr.

Cymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol sefydliad aelodaeth ac elusen gofrestredig sy’n cynnig cymorth llesiant i deulu’r LlAB. 

Y Gymdeithas Fagnelaeth Frenhinol - yn cefnogi Cyn-filwyr y Gymdeithas Fagnelaeth Frenhinol a milwyr o’r Gymdeithas Fagnelaeth Frenhinol sy'n gwasanaethu a'u teuluoedd. Cymorth materol ac ariannol fesul achos

Y Lleng Brydeinig Frenhinol – cymorth am oes i ddynion a menywod sydd yn y lluoedd, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Samariaid Cymru - Os ydych chi'n cael trafferth ymdopi ac angen rhywun i siarad ag ef, bydd y Samariaid yn gwrando.

Gallwch gysylltu â'r Samariaid 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn ar 116 123 (am ddim o unrhyw ffôn) neu e-bost: [email protected].

Gallwch hefyd ffonio Llinell Gymraeg y Samariaid (am ddim o unrhyw ffôn) 0808 164 0123 (7pm–11pm bob dydd). 

SSAFA -  Gall helpu i roi cymorth ymarferol, ariannol ac emosiynol i bersonél y lluoedd arfog, cyn-filwyr a'u teuluoedd.

SSCE Cymru – canllaw i deuluoedd gwasanaeth gyda phlant mewn addysg.  

Gwasanaeth Cymorth Profedigaeth Cyn-filwyr - yn cynnig cymorth i'r rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, y Llynges Fasnachol a'r Gwasanaethau Brys drwy brofedigaeth a cholled drwy gydol y flwyddyn.

Gwasanaeth Cymorth Profedigaeth Cyn-filwyr yn cynnig cymorth i'r rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, y Llynges Fasnachol a'r Gwasanaethau Brys drwy brofedigaeth a cholled drwy gydol y flwyddyn.

GIG cyn-filwyr Cymru – un gwasanaeth ledled Cymru sy’n gweithio i ddarparu asesiadau cleifion allanol a therapi seicolegol i bobl oedd yn arfer bod yn y lluoedd, gydag anhawster iechyd meddwl yn ymwneud â’u cyfnod yn y lluoedd.

Gwasanaeth Llesiant Cyn-filwyr (GLlC) – cymorth i alluogi’r trosglwyddiad o fywyd yn y lluoedd i fywyd fel dinesydd, cymorth i deuluoedd mewn profedigaeth ac ymateb i ddigwyddiadau bywyd sy’n peri anghenion llesiant.  

Walking with the Wounded – cefnogi pob cyn-filwyr gydag anafiadau i gael sgiliau a chymwysterau.

Women’s Royal Naval Service Benevolent Trust – â’r nod o roi rhyddhad pan fo angen neu pan fo trallod ymhlith ei aelodau a’u hanwyliaid. Gall yr Ymddiriedaeth hefyd roi grantiau ar gyfer addysg eu haelodau.

Woody's Lodge - Man cyfarfod i'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog neu'r Gwasanaethau Brys sy'n cynnig cyngor a chymorth, cyfeillgarwch chwmnïaeth gyda phobl o'r un anian. Mae cymorth hefyd ar gael i'r teuluoedd ac anwyliaid y rhai sydd wedi gwasanaethu.